Gan Wyn Jones, Rheolwr Clwstwr Rhanbarthol
Yn ein cylchlythyr diwethaf, roeddwn wedi edrych yn fwy manwl ar yr opsiynau ecwiti i fusnesau sydd fel arfer ar y camau cynnar yn eu cylch bywyd: arian y sefydlydd, ei deulu a’i ffrindiau; cyllido torfol; ac angylion busnes. Y tro hwn, byddaf yn edrych ar gyfalaf menter; ecwiti preifat; a chynigion cyhoeddus cychwynnol. Fel arfer, bydd yr opsiynau hyn yn fwyaf addas i fusnesau sydd wedi cael eu traed danynt yn bellach yn eu cylch bywyd.
Fel y nodwyd o’r blaen, pan fydd busnes yn cael buddsoddiad ecwiti, bydd y trafodiadau canlynol yn digwydd:
Bydd perchnogion y busnes yn gwerthu cyfran o’r cyfrannau yn y busnes i drydydd parti (y buddsoddwr)
Yn gyfnewid am y cyfrannau, bydd y busnes yn cael swm o arian
Ni ellir talu’r buddsoddiad o arian parod yn ôl, ac ni chodir llog arno fel arfer, sef y brif fantais o ‘fuddsoddi’ o’i gymharu â dyled.
Bydd y buddsoddwr yn cadw’r cyfrannau gyda’r bwriad o’u gwerthu yn y dyfodol gan obeithio y bydd eu gwerth wedi cynyddu erbyn hynny, ac mae’n bosibl y gallai gael difidend ar ei gyfranddaliad, os bydd hwnnw ar gael drwy wneud elw.
Mathau o Fuddsoddwyr:
Yn y rhifyn hwn, byddaf yn edrych ar gyfalaf menter, ecwiti preifat a Chynigion Cychwynnol Cyhoeddus (IPOs). Y rhain sy’n fwyaf addas fel arfer ar gyfer busnesau sydd wedi ymsefydlu.
Cyfalaf Menter
Mae cyfalafwyr menter yn fuddsoddwyr proffesiynol, sefydliadol sy’n buddsoddi arian ar ran cronfeydd, fel cronfeydd pensiwn, sefydliadau etc. Y symiau lleiaf a fuddsoddir fel arfer yw rhai rhwng £500,000 a sawl miliwn. Darperir cyfalaf menter fel cyfranddaliad lleiafrifol, ond bydd bob amser yn cael ei roi dan delerau ac amodau a all ofyn cryn lawer gan y busnes, fel cynnig un neu ragor o seddi ar y bwrdd cyfarwyddwyr, targedau perfformiad i’w cyrraedd, a strategaeth ac amser ymadael a gytunir. Byddant yn chwilio am fusnesau sydd â photensial mawr o ran twf am eu bod yn ceisio elw sylweddol am eu buddsoddiad, gan obeithio y daw hwnnw drwy werthu eu cyfrannau am werth uwch. Gallant gynllunio i ymadael ar ôl cyn lleied â 3 blynedd ond fel arfer bydd yn gyfnod o 5 mlynedd o leiaf, a hyd at 12 mlynedd.
Yn aml, bydd cronfeydd cyfalaf menter yn darparu buddsoddiad dilynol ar ôl eu buddsoddiad cychwynnol. Felly, drwy ddod o hyd i gyfalafwr menter addas a chydweithio ag ef, gallai fod yn bosibl i chi sicrhau cyllid am nifer da o flynyddoedd.
Ecwiti Preifat
Mae ecwiti preifat yn bod mewn ffurfiau a fformatiau gwahanol. Bydd cwmnïau ecwiti preifat yn defnyddio arian a godwyd oddi wrth fuddsoddwyr sefydliadol i gael cyfranddaliad mwyafrifol mewn busnesau preifat. Yn aml, bydd buddsoddiad o’r math hwn yn cynnig cyfle i ymadael i berchnogion gwreiddiol y busnes. Bydd cwmnïau ecwiti preifat yn ceisio perchnogi busnesau a’u tyfu am 3 – 5 mlynedd, a’u gwerthu ar elw er budd eu buddsoddwyr. Fel arfer, mae cwmnïau ecwiti preifat sy’n buddsoddi mewn busnesau bach a chanolig eu maint yn sefydliadau bach o lai na 30 o bobl, sydd yn aml â diwylliant entrepreneuraidd cryf yn debyg i’r busnesau bach a chanolig y maent yn buddsoddi ynddynt. Bydd y rheolwyr yn y cwmni ecwiti preifat yn rhai sydd â phrofiad ac arbenigedd yn y sector diwydiant y maent yn buddsoddi ynddo. Ar hyn o bryd, mae tua 1,200 o gwmnïau ecwiti preifat yn y DU, ond mae cwmnïau yn Ewrop ac UDA hefyd yn chwilio am fusnesau bach a chanolig yn y DU i fuddsoddi ynddynt.
Cynigion Cyhoeddus Cychwynnol
Nid yw’r math hwn o fuddsoddi yn debygol o fod yn berthnasol i fusnesau bach a chanolig eu maint am ei fod yn golygu lansio’r busnes ar farchnad stoc h.y. trefnu i’r cyfrannau fod ar gael i’r cyhoedd i’w prynu a’u gwerthu. Bydd cwmnïau preifat yn cydweithio â banciau buddsoddi i ddod â’u cyfrannau at y cyhoedd. Mae hyn yn galw am waith mawr o ran diwydrwydd dyladwy, marchnata, a chwrdd â gofynion rheoliadol.
Crynodeb
Mae’r erthygl hon yn bwrw trosolwg cyffredinol ar y mathau o fuddsoddi a allai fod ar gael i fusnesau bach a chanolig sy’n chwilio am gyllid ar gam mwy sefydledig yng nghylch bywyd y busnes. Un o’r heriau sy’n cael ei diystyru amlaf wrth chwilio am fuddsoddiad ecwiti mewn busnes yw’r galwadau posibl ar amser y rheolwyr. Mae’r angen i gynnal perthynas â buddsoddwyr yn tueddu i gymryd mwy o amser a bod yn fwy cymhleth yn y mathau o fuddsoddi sy’n bellach i lawr y rhestr. Bydd buddsoddwyr mwy soffistigedig yn galw am lif cyson o ddata perfformiad busnes, diweddariadau ar gynnydd prosiectau, gwybodaeth am y farchnad etc.
Ni ellir pwysleisio gormod mai un ffactor hanfodol i’r busnes, beth bynnag yw’r lefel o fuddsoddi y mae’n chwilio amdani, yw natur y berthynas rhwng arweinwyr y busnes a buddsoddwyr. Os nad yw’r berthynas yn iawn, ni fydd y buddsoddiad yn debygol o fod yn llwyddiannus i’r busnes nac i’r buddsoddwr.
Mae lle i bob un o’r mathau o fuddsoddi sydd wedi’u rhestru uchod, a gallant fod yn briodol a llesol yn ôl yr amgylchiadau penodol yng nghylch bywyd y busnes, ond mae i bob un ohonynt ei heriau a’i anfanteision. Defnyddiwch y dolenni yn ein Diagram Venn Ecwiti i ddeall y manteision ac anfanteision sydd i bob un, neu cysylltwch ag un o’n Rheolwyr Clwstwr Rhanbarthol os hoffech drafod hyn ymhellach. Mae’r manylion cyswllt ar gael yma.
Comments