top of page
Search

Cynhyrchiant – Pam Ddylen Ni Boeni

Gan Richard Elmitt, Arweinydd Gweithrediadau a Chynhyrchiant Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy


Rydyn ni’n clywed digon am gynhyrchiant yn y cyfryngau, fel arfer yng nghyd-destun hanes cynhyrchiant cymharol wael y DU o’i gymharu â gwledydd eraill. Ond ydyn ni wir yn deall beth mae'n ei olygu? Os nad ydyn ni’n deall, yna allwn ni ddim ei fesur mewn gwirionedd, sy'n golygu na fyddwn yn gwybod a allwn ei wella. Felly, gadewch i ni fynd nôl at y pethau sylfaenol. Mae geiriadur Caergrawnt yn diffinio cynhyrchiant fel “y gyfradd y mae cwmni neu wlad yn cynhyrchu nwyddau, a fernir fel arfer mewn cysylltiad â nifer y bobl a faint o ddeunyddiau sydd eu hangen i gynhyrchu'r nwyddau.”


O ystyried y diffiniad hwn, gallwn fesur faint o lafur a mewnbynnau/deunyddiau sydd eu hangen i gynhyrchu ein cynnyrch, er nad yw mor syml â’r disgwyl pan fyddwn yn ystyried costau uniongyrchol ochr yn ochr â chostau gorbenion. Ydyn ni’n cynnwys aelodau’r tîm ar lawr y ffatri yng nghost llafur cynhyrchu? Ydyn ni’n cynnwys llafur anghynhyrchiol, fel glanhau neu gyfnewid. Neu ydyn ni’n ychwanegu costau llafur staff gwerthu a marchnata, AD, cyllid, gweinyddu etc. a allai gael eu hystyried yn gostau gorbenion. Yn dibynnu ar sut rydyn ni’n diffinio llafur, bydd ein cyfradd gynhyrchiant yn wahanol, felly hefyd maint yr elw ar ein cynnyrch.


Mae costau mewnbynnau/deunyddiau yr un mor amwys a bydd angen eu diffinio er mwyn i ni ddeall ein cyfradd gynhyrchiant.


Yr hyn sy'n glir, serch hynny, ar ôl i ni ddiffinio beth rydyn ni’n ei fesur a sut rydyn ni’n ei fesur, yw ein bod ni ar y ffordd i nodi ble gellir gwneud gwelliannau. Efallai y bydd angen olrhain rhai mesurau ar wahanol adegau fel fesul awr, dydd, wythnos, mis. Mae cymryd golwg hirdymor hefyd yn fuddiol i weld pa dueddiadau sy'n dod i'r amlwg ac sydd angen mynd i'r afael â nhw. Mae'r dywediad bod yr hyn sy'n cael ei fesur yn cael ei reoli yn wir, a mesur yw'r cam cyntaf ar hyd y daith o wella cynhyrchiant.


Os ydych chi eisiau deall mwy am gynhyrchiant, beth, sut a phryd i fesur ffactorau allweddol, yna ymunwch â ni yn ein cynhadledd Trefnu er mwyn Tyfu ym mis Chwefror.


7 views0 comments
bottom of page