top of page
Search

Gwella Cynhyrchiant

Gan Richard Elmitt, Arweinydd Gweithrediadau a Chynhyrchiant Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy


Yn fy mlog diwethaf, fe wnaethon ni edrych ar ddiffinio cynhyrchiant a'r ffactorau sydd angen eu mesur i nodi gwelliannau. Yn y blog hwn, byddaf yn edrych ar sut i wella cynhyrchiant a chwalu’r myth bod gwelliannau cynhyrchiant allan o gyrraedd busnesau bach sydd efallai heb y cyfalaf i'w wario ar offer newydd neu ehangu adeiladau.


Ar ei symlaf, gall gwelliannau cynhyrchiant gael eu gwneud drwy wneud mwy yn defnyddio'r un lefel o fewnbynnau neu leihau lefel y mewnbynnau i gyflawni'r un allbynnau (neu fwy). Cafwyd cryn dipyn o sylw yn y cyfryngau am yr wythnos 4 diwrnod y mae nifer o fusnesau’r DU wedi bod yn ei dreialu ar draws sectorau gwahanol, ac i rai cwmnïau, mae hyn yn golygu cyflawni wythnos waith mewn 4x8 awr. Serch hynny, opsiwn arall fyddai gweithredu diwrnodau 4x10 awr, sy’n gallu bod yn fwy effeithlon na diwrnodau 5x8 awr – meddyliwch am amser glanhau. Os yw hyn yn cymryd awr bob dydd, yna mae’r amser cynhyrchiol o 40 awr ond yn gyfystyr â 10% nid 12.5%.


Mae rhediadau cynhyrchu hirach yn eu hanfod yn fwy effeithlon (cynhyrchiol) na rhediadau cynhyrchu byr, lle bo angen newidiadau lluosog, sypiau o feintiau gwahanol, newidiadau i labeli, mwy o wastraff posib ac amser segur y peiriannau. Ond ystyriwch os oes cyfaddawd i’w wneud os yw’r rhediadau cynhyrchu byr ar gyfer cwsmeriaid sy'n cynnig elw llawer uwch ar y cynnyrch hynny. Gall gwerthu i gwsmer gyda’r ddealltwriaeth bod pob darn ychwanegol o brosesu yn costio, bod rhediadau byr yn llai effeithlon ac yn gwasgu cynhyrchiant, sicrhau bod prisiau’n ystyried hyn ac yn sicrhau’r elw uwch hynny a fydd yn gwneud rhediadau cynhyrchu byrrach yn fwy gwerth chweil.


Os oes gennych le i storio’r nwyddau parod, yna gall buddsoddi mewn pecynnau sy'n ymestyn oes silff helpu i wneud rhediadau cynhyrchu hirach yn fwy ymarferol, ond dim ond os ydych yn hyderus na fydd unrhyw newidiadau annisgwyl, er enghraifft, deddfwriaeth labelu a fyddai’n gwneud y nwyddau gorffenedig hyn yn ddarfodedig a bod gennych ddigon o gyfalaf gweithio i ariannu lefelau uwch o stoc.


Gan feddwl am leihau mewnbynnau, hanfodion gweithgynhyrchu diwastraff yw gwneud bywydau’r tîm cynhyrchu yn haws. Mae cynllunio diwyg y ffatri i leihau symudiadau, trin a sicrhau bod offer a chyfarpar ar gael yn hawdd nid yn unig yn lleihau costau ond risg hefyd – llwyddiant dwbl. Os oes gan eich busnes y lle a’r cyfalaf gweithio, allwch chi brynu cynhwysion mewn swmp i sicrhau arbedion maint a lleihau cost rhai o’ch mewnbynnau (ar yr amod nad yw’r gost o ariannu’r swmpbrynu hwnnw’n fwy na’r arbedion a wnaed). Gall lleihau maint pecynnau a blasau hefyd leihau gwastraff a chostau mewnbynnau.


Yn ogystal, mae’n werth ystyried contract gweithgynhyrchu os allwch chi ddod o hyd i bartner sy’n fwy effeithlon a chynhyrchiol nag y gallwch chi fod.


Mae gwella cynhyrchiant yn dechrau drwy ddeall pa ffactorau sy’n berthnasol i’ch cynhyrchiant ac sydd angen eu mesur, canfod ffyrdd o fesur y ffactorau hynny, ac, yn seiliedig ar y mesuriadau hyn, nodi sut i ddod yn fwy effeithlon drwy gynyddu allbynnau, lleihau mewnbynnau neu'r ddau. Swnio’n syml? Wel, fel y rhan fwyaf o bethau mewn bywyd, mae angen cyfaddawdu. Gallech gael ffatri hynod effeithlon, sy’n cynhyrchu un cynnyrch ar gyfer un cwsmer gyda lefelau cynhyrchiant uchel iawn. Ond i’r rhan fwyaf o fusnesau, mae’r risg i’r busnes y bydd y cwsmer hwnnw’n newid ei bartner gweithgynhyrchu, yn methu neu’n penderfynu bod y bartneriaeth wedi rhedeg ei chwrs, yn risg annerbyniol o uchel, felly mae cyfaddawdu ar gynhyrchiant uchel am bortffolio cwsmer/marchnad mwy cytbwys a llai o risg yn gyfaddawd sy’n dderbyniol i nifer ohonom.


Os ydych chi eisiau deall mwy am sut i wella cynhyrchiant yn eich busnes, yna ymunwch â ni yn ein cynhadledd Trefnu er mwyn Tyfu ym mis Chwefror.




3 views0 comments
bottom of page