top of page
Search

Mae prynu offer rhatach o dramor i brosesu a phecynnu bwyd yn ddrutach na feddyliech chi.

Pryn Rad, pryn Eilwaith!


Yn ddiweddar, rwyf wedi gweld pobl yn prynu offer o’r Dwyrain Pell, gan wneud y penderfyniad fel arfer gan ei bod yn anodd cyfiawnhau’r gwahaniaeth ym mhrisiau offer a wnaed ym Mhrydain neu yn Ewrop o’i gymharu â phrisiau’r dwyrain pell. Ond yn fy marn i, mae hyn yn gamgymeriad.


Pam? Wel, mae unrhyw beth sy’n rhad yn aml yn rhad am reswm, ond yn hytrach na beirniadu’r offer o dramor, beth am drafod yn gyntaf fanteision offer prosesu a phecynnu Ewropeaidd.


Mae offer gweithgynhyrchu bwyd Prydeinig ac Ewropeaidd ymysg y gorau yn y byd. Rwy’n dweud hyn fel rhywun sydd naill ai wedi gweithio i gwmnïau gweithgynhyrchu offer mawr neu fel rhywun sydd wedi prynu ganddynt.


Fe all ein cwmnïau yn Sweden, yr Almaen, yr Eidal ayb, ac ym Mhrydain gynnig gwerth gweddilliol cadarn yn eu hoffer. Mae’n swnio’n amlwg ond yn aml iawn, nid oes dim gwerth gweddilliol o gwbl i’r cyfarpar a geir o’r dwyrain pell. Nid cysyniad ‘gwneud’ yw gwerth gweddilliol: mae’n seiliedig ar y ffaith, ar ôl cael ei ddefnyddio am 10-25+ mlynedd, y caiff cyfarpar Ewropeaidd yn aml ei gymryd yn ôl i mewn, ei ddiweddaru a’i uwchraddio a naill ai gael ei anfon yn ôl at yr un cwsmer neu, yn amlach, ei ail-farchnata fel peiriant sylfaenol i gwsmer newydd. Y rheswm am hyn yw oherwydd ei fod wedi cael ei adeiladu i bara, wedi’i wneud o ddeunyddiau o ansawdd a’i ddylunio i gael ei ddiweddaru. Mae motorau, systemau rheoli a rhyngwynebau defnyddwyr i gyd yn caniatáu ichi ddefnyddio’r offer mewn ffordd newydd, yn well, yn gynt, neu wedi’u hawtomeiddio. Yn aml, mae offer wedi’u diweddaru yn angenrheidiol er mwyn cyflymder, integreiddio cyfrifiadurol neu reolaeth fwy cywrain i ymdopi â deunyddiau amddiffyn newydd neu oddefiannau llai gan ganiatáu ar gyfer gwahanol becynnau.


Bydd angen ymdrin yn ofalus ag offer prosesu sydd â phrosesau mwy soffistigedig (megis prosesu hylifau) i leihau gwastraff rhyngwyneb a chofnodi’r prosesu am resymau technegol ac achredu. Mae cyflymder a chywirdeb cyfarpar bwyd a diod modern a reolir gan gyfrifiaduron yn anhygoel o glyfar ac mae’n aml yn hanfodol ar gyfer gwneud busnes gyda chwsmeriaid a marchnadoedd blaenllaw.


Arferwn fod yn werthwr mewn busnesau bwyd a diod. Nid oedd dim yn gwneud argraff cystal ar gleientiaid y busnesau bwyd a diod a gynrychiolwn nag ymweliad â’r ffatri. Roedd arddangos ansawdd a soffistigedigrwydd yr offer prosesu a phecynnu a ddefnyddiem yn sicrhau archebion inni. Roedd yn siarad cyfrolau am ymrwymiad y busnes i fod ar y brig os gallech weld safle ag ôl buddsoddiad arno. Nid yw offer rhad yn hysbyseb dda i ethos y cwmni.


A phwy all anghofio’r problemau yn y gadwyn gyflenwi a wynebon yn ystod y pandemig pan oedd cynwysyddion yn y man anghywir o’r byd a’r amseroedd cludo yn ymestyn ymhell i’r gorwel, gyda rhai busnesau yn aros mwy na blwyddyn i offer sydd gwir ei angen gyrraedd.


Yn wyneb dadleuon fel y rhain, nid yw’n rhy anodd cyflwyno’r ddadl dros sefydlu’r gwaith o weithgynhyrchu offer prosesu a phecynnu bwyd gartref neu’n lleol drachefn.


Felly, sut ydyn ni’n fforddio’r holl offer prosesu a phecynnu Prydeinig ac Ewropeaidd drud hwn?


Prynwch nhw ar Gyllid!


Ond, mae’n cymryd ychydig o amser ac ymdrech i gyflwyno’r ddadl fusnes dros ragnodi ac ariannu’r offer cyfalaf gorau. Dyma rai pwyntiau da i ddarbwyllo cyllidwyr:


Enillion cynhyrchiant. Faint cyflymach, mwy effeithlon, llai gwastraffus o ran cynhyrchiant ac ynni fydd yr offer? A ellir mesur hynny yn ôl faint yn fwy o gynnyrch a gynhyrchir yn yr un amser ac yn yr un gofod llawr? Mae’r effeithlonrwydd hwnnw yn gyfraniad uniongyrchol i adennill gorbenion a gwella elw.


Y busnes ychwanegol y mae’r offer yn ei sicrhau; gallai hyn fod yn gwsmeriaid newydd drwy wella prosesau neu wella pecynnau, neu gynhyrchiant ychwanegol drwy ddileu cyfyngiadau ar gapasiti i sicrhau gwerthiannau ychwanegol? Fe allai hyn gynnwys prosesu a phecynnu ar gyfer eraill naill ai drwy brosesu ar eu label eu hunain neu drwy gontract/toll.Mae defnydd mwy effeithlon yn golygu mwy o bwyntiau pris cystadleuol sy’n denu rhagor o werthiannau.


Bydd angen i’r elfen ariannol ddangos bod y gyfradd brosesu ychwanegol yn talu am y ffioedd benthyca mewn termau refeniw a bod cost yr arian (llog ar y cyllid) yn llai na’r elw net ar y cynnyrch a gynhyrchir.


A dyna chi. Fe allai prynu cyfarpar “rhad” fod yn ddrutach yn y tymor hir, gall fod yn anodd ei osod, mae’n bosibl na fydd mor hyblyg i wneud newidiadau i’r maint neu’r cynnyrch a byddwch yn ddibynnol ar gefnogaeth o wahanol barthau amser. Efallai na fydd iddo ddim gwerth gweddilliol felly bydd yn ddrutach i’w ariannu, a pho bellaf yw’r cyflenwr, y mwyaf yw’r siawns y bydd yn amharu ar y gadwyn gyflenwi.


Pryn Rad, pryn Eilwaith!

7 views0 comments
bottom of page