top of page
Search
Writer's pictureJohn Taylerson

Myfyrio ac Addunedau’r Flwyddyn Newydd

Mae’n ddechrau blwyddyn newydd ac yn amser da i fyfyrio am y deuddeg mis diwethaf. Efallai fod eich blwyddyn ariannol wedi dod i ben hefyd, a fydd angen ‘cymryd stoc’. Y naill ffordd neu’r llall mae’n debyg bod ‘cymryd stoc’ ar y flwyddyn ddiwethaf yn debygol o fod yn syniad da!

A yw’r busnes mewn lle gwell nag yr oedd yr adeg hon y llynedd? Ydych chi wedi cyflawni’r hyn yr oeddech chi’n gobeithio ei gyflawni mewn amgylchedd ansicr ac anwadal iawn?


Dyma rai profion


Ydych chi’n cynhyrchu, yn prosesu ac yn marchnata’n fwy effeithlon nag yr oeddech chi flwyddyn yn ôl?


Gallai hyn fod mor syml â chynyddu niferoedd a lleihau gwastraff yn sgil gwell defnydd neu efallai fod y busnes wedi dysgu rheoli adnoddau’n well a’i fod nawr yn gwneud mwy o’r hyn sy’n broffidiol a llai o’r hyn nad yw’n broffidiol. Pethau fel cyfuno archebion fel bod maint sypiau’n fwy, rheoli’r colledion rhyngwyneb rhwng sypiau yn well neu mor syml â bod yn llawer mwy effeithiol am newid o un cynnyrch i’r llall?


Oeddech chi’n deall eich cwsmer yn well?


Oeddech chi’n rhagweld yr hyn yr oedd eich cwsmer ei eisiau, pryd yr oedd ei eisiau a’i agwedd tuag at sut beth yw gwerth, o ystyried bod cynnydd mewn prisiau yn y rhan fwyaf o’r sectorau bwyd a diod yn ymddangos yn anochel? Ydych chi wedi gallu gwella eich rhagolygon neu ymatebolrwydd i’r amgylchedd sy’n newid? Mae hyd yn oed y Systemau Gwybodaeth Reoli mwyaf sylfaenol wedi helpu llawer i gyflawni hyn.


A yw eich sefyllfa ariannol yn well neu’n waeth na’r llynedd?


Nid dim ond yr arian yn y banc, ond faint o gyfalaf gweithio sydd ar gael gennych chi. A yw’r diwrnodau dyledwyr wedi lleihau (nifer y diwrnodau rydych chi’n aros i’ch arian ddod yn ôl gan gwsmeriaid)? Ydych chi wedi gallu gwella’r credyd masnach gan eich cyflenwyr? A yw statws credyd y busnes yn well neu’n waeth ar ôl eleni? Efallai y bydd pethau syml y gallwch chi eu gwneud i wella’r rhain i gyd.


A yw’r busnes wedi tyfu mewn gwerth?


Ydych chi wedi buddsoddi yn y brandio, wedi tyfu refeniw ar gyfer cynhyrchion brand, wedi creu rhywfaint o eiddo deallusol (IP) drwy ddatblygu cynnyrch a’r farchnad? Ydych chi’n gwybod beth mae caffael cwsmeriaid yn ei gostio? A yw’r busnes o bosibl yn fwy gwerthfawr pe bai rhywun eisiau ei gaffael ac a ydych chi’n gwybod sut i brisio eich busnes? A yw eich nodau masnach wedi’u gwarchod, eich dyluniadau wedi’u cofrestru a’ch mantolen yn gryfach? Hyd yn oed pe bai refeniw yn aros yn llonydd neu’n gostwng, mae ffyrdd eraill y gall y busnes gaffael a diogelu gwerth.


Addunedau blwyddyn newydd


O ystyried natur anwadal y flwyddyn ddiwethaf, unig nod rhai pobl fydd cyrraedd y tu hwnt i fis Chwefror gyda chynifer o anfonebau wedi’u talu â phosibl, a rhywfaint o sefydlogrwydd yn y farchnad.


Beth mae hyn i gyd yn ei gostio?


Efallai fod hwn yn amser da i adolygu codau’r llyfr prynu neu godau enwol. Gallu rhannu’r costau sy’n gysylltiedig â chynhyrchion, sianeli (e-fasnach, manwerthu, cyfanwerthol) neu hyd yn oed gwsmeriaid fel bod modd asesu proffidioldeb (neu ddiffyg proffidioldeb) cynhyrchion, cwsmeriaid a sianeli, er mwyn ei gwneud hi’n haws gwneud penderfyniadau. Ceisiwch wneud mwy o’r hyn sy’n gweithio a llai o’r hyn sydd ddim yn gweithio.


Mae’n syniad da creu cyllideb ar gyfer cynhyrchion newydd ac Ymchwil a Datblygu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw cofnod o’r gweithgareddau hyn er mwyn i’ch cyfrifydd allu hawlio rhywfaint o dreth yn ôl.


Lleihau’r costau cyllid


Os yw’n dawel ym mis Ionawr efallai ei bod yn bryd adolygu eich cytundebau hurbwrcas, prydlesi, cytundebau cyllid asedau, gorddrafft, gwaith papur ar fenthyciadau a dyledion eraill a chyfrifo’r taliadau cyllid cyffredinol ar gyfer yr arian hwnnw. Efallai ei bod yn amser ystyried cyfuno.


Mewn undod mae nerth


Un adduned bosibl fyddai ymuno â Chlwstwr Uwchraddio Cynaliadwy Bwyd a Diod Cymru. Yn ogystal â chael cymorth am ddim i fynd i’r afael â rhai o’r materion hyn, fe allech chi hefyd feincnodi eich cynnydd gyda chwmnïau eraill mewn sefyllfa debyg. Gofynnwch i’ch tîm sut i gyflwyno, ymgorffori a defnyddio gwybodaeth reoli allweddol yn eich busnes neu archwilio cost cyfalaf drwy’r Rhaglen Barod am Fuddsoddiad. Efallai y gallech chi arbed costau a rhyddhau cyfalaf gweithio?


Oes gennych chi unrhyw gwestiynau? Siaradwch ag un o'n Rheolwyr Clwstwr, mae eu manylion cyswllt i'w gweld yma.




13 views0 comments

Comments


bottom of page