top of page
Search

Pam Dod i Gynhadledd Uwchraddio?

Updated: Mar 8, 2022



Sut gall cynhadledd fy helpu i ddatblygu fy musnes?


Rydym yn meddwl bod angen tri pheth arnoch chi i dyfu:

1. Cyfalaf

2. Capasiti

3. Cymwyseddau


Tri pheth sy’n dibynnu ar eich maint, eich cwmpas, eich sefyllfa ar hyn o bryd.


Yn gyntaf, gadewch i ni drafod cymwyseddau. Rydych chi’n adnabod eich busnes yn well na neb arall, ond a oes angen gwybodaeth neu sgiliau pellach arnoch mewn meysydd arbenigol? Neu ffrind beirniadol sy’n gweithredu fel clust i wrando? Er enghraifft, a fyddai cyfarwyddwr anweithredol yn helpu pe bai ganddo brofiad ag adwerthwyr mawr, neu achrediadau fel B Corp, BRC, Organic ayb. Neu, Gyfarwyddwr Anweithredol a oedd yn arfer gweithio i fanc sy’n deall materion dyled ac ecwiti? Byddwn yn clywed gan Gyfarwyddwyr Anweithredol profiadol.


Nesaf, gadewch i ni drafod capasiti. Dychmygwch fod angen i chi gael cyflenwr trydydd parti i ategu eich proses cynhyrchu, sut ydych chi’n cyllidebu ar gyfer cwmni pecynnu? Beth os ydych chi am gyflwyno’r achos dros wariant cyfalaf i wella awtomatiaeth a chynyddu cynhyrchiant, ond does gennych chi mo’r arian, sut ydych chi’n ariannu’r buddsoddiad? Sut ydych chi’n cyfrifo'r gwariant cyfalaf yn erbyn cyfalaf rhoi’r gwaith i ddarparwr allanol? Sut ydych chi’n mesur yr effeithlonrwydd a’r costau er mwyn gwneud cymhariaeth deg? Byddwn yn trafod y materion hyn yn y gynhadledd.


Ac yn olaf, gadewch i ni drafod cyfalaf. Nid yw pob cyfalaf yr un fath. Gall meddwl am gyfalaf fel cynhwysyn ar gyfer eich busnes bwyd neu ddiod eich helpu i roi’r un lefel o ystyriaeth i’w nodweddion a sut mae’n gwella eich busnes fel y byddech i gynhwysyn allweddol yn eich cynnyrch bwyd, ac i beidio â’i adael nes ei fod yn brin, sydd byth yn amser da i brynu unrhyw beth. Yn aml, mae busnesau bwyd a diod yn darganfod eu hunain mewn sefyllfa lle maent yn brin o arian ac yn cael eu temtio i fenthyca beth bynnag sy’n cael ei gynnig, yn hytrach na chwilio am y cynigion gorau. Bydd y gynhadledd nid yn unig yn trafod cyfalaf ond hefyd ei nifer helaeth o ffynonellau. Fel rhan o’r gynhadledd bydd gennym fanciau, darparwyr cyllid asedau, darparwyr cyllid anfonebau a buddsoddwyr ecwiti sy’n awyddus i siarad â pherchnogion busnes a allai elwa o’u gwasanaethau. Mae banciau yn cynnig gwasanaeth benthyca, dim ond y risg, y pris a’r sicrhad sy’n gwneud y sgwrs yn lletchwith weithiau.


Felly, ydych chi am fod yn rhan o’n cynhadledd Tyfu Cynaliadwy gyntaf, Arian i Dyfu? Yn barod i gwrdd â banciau, cyfarwyddwyr anweithredol profiadol, cyfrifwyr sy’n gallu ei gwneud yn haws i chi ddeall eich arian, a gweithwyr proffesiynol a all eich helpu i berswadio’r ffynonellau hyn eich bod yn gallu gweithredu ar raddfa gynaliadwy. Lle gwell i siarad am arian nag mewn busnes eiconig yng Nghymru, y Bathdy Brenhinol!


Edrychwn ymlaen at eich croesawu a’ch ysbrydoli i ddod o hyd i arian i dyfu eich busnes.


16 views0 comments
bottom of page