top of page
Search

Punt wan? Beth mae hyn yn ei olygu i’r sector bwyd a diod yng Nghymru?

Mae John Taylerson, Arweinydd y Clwstwr Tyfu’n Gynaliadwy, yn edrych ar ba effaith a gaiff y bunt wan ar fusnesau bwyd a diod Cymru a pha gamau y dylai busnesau fod yn eu cymryd.


Beth sy’n digwydd pan fo’r bunt yn wan?


Bu llawer o sylw yn y cyfryngau yn ddiweddar ar y bunt wan a’r effaith ar fusnesau. Pan fo’r bunt yn colli ei gwerth, yn syml, mae arnoch angen mwy o bunnoedd i brynu’r un faint o nwyddau sy’n cael eu mewnforio y gallai busnesau fod yn eu defnyddio fel cynhwysion neu fewnbynnau yn eu cynhyrchion. Efallai mai’r poteli o Bortiwgal neu’r Aifft a ddefnyddiwch yw’r rhain. Neu gynhwysion fel powdr llaeth sgim, siwgr neu flawd, gan fod y cynhyrchion hyn yn cael eu masnachu’n rhyngwladol. Os ydynt werth mwy dramor na chynnyrch sy’n cael ei gynhyrchu i lawr y ffordd oddi wrthych chi, cânt eu cynnig i’r bidiwr uchaf a allai fod wedi’i leoli mewn ardal sydd ddim yn talu mewn sterling, oherwydd bod gan yr arian maen nhw yn ei ddefnyddio fwy o bŵer prynu gan fod y bunt wedi gwanhau.


Mae punt wan yn effeithio’n benodol ar gostau ynni; mae’r pris a ddyfynnir am olew crai Brent mewn Doleri yn golygu bod y bunt wannach yn prynu llai o olew a nwy; ac i’r gwrthwyneb, bydd olew yn fwy fforddiadwy i’r arian cryfach hynny sy’n gallu prynu doleri a byddant yn prynu’r cyflenwadau, oni bai ein bod ni’n talu mwy.



Ymyl arian?


Rydyn ni’n aml yn clywed bod punt wan yn gwneud ein hallforion yn fwy atyniadol gan eu bod yn ymddangos yn fwy cystadleuol nag ein cystadleuwyr rhyngwladol sydd ag arian cryfach. Ond nid yw hyn bob amser yn wir oherwydd yn aml cytunir ar allforion ymlaen llaw ar bris sefydlog ac felly ni ellir manteisio ar y bunt wan. Hefyd, mae’r mewnbynnau sy’n ffurfio’r cynhyrchion sy’n cael eu hallforio yn aml yn cynnwys mewnbynnau sydd wedi’u mewnforio, sy’n golygu y gallai costau’r mewnbynnau hynny ddileu’r fantais allforio. .


Yn swnio fel na allwch chi ennill?


Fe all ‘diogelu’ atal y risg a wynebir wrth i werth arian newid. Yn wir, fel arfer, dim ond synnwyr cyffredin ydyw. Os gwyddoch eich bod yn prynu cynhwysion a phecynnau mewn arian tramor fe allwch gael prisiau sefydlog, prynwch yr arian ymlaen llaw neu ddefnyddio eich cyfrif arian tramor fel cyfrif dal i dalu i’r cyflenwyr tramor. Mae hynny’n aml yn gwarchod rhag colledion wrth gyfnewid arian (FX) sef, peidio â newid arian yn ôl i sterling dim ond i brynu arian tramor yn ddiweddarach i brynu mewnbynnau. Swnio’n amlwg?


Fe fydd rhai cyflenwyr yn cytuno ar gyfradd gyfnewid sefydlog ichi a ‘diogelu’ drosoch chi i bob pwrpas. Bydd hyn yn costio, ond os yw’n golygu eich bod wedi pennu’r pris ac felly faint yr elw a ddisgwyliwch, o leiaf rydych chi’n gwybod lle’r ydych chi’n sefyll.


Ffordd arall o ‘ddiogelu’ yw prynu ymlaen neu o leiaf gytuno ar swm y gallwch dynnu ohono dros gyfnod y cytunwyd arno lle bo’r pris wedi’i bennu. Cofiwch, bydd raid ichi ddal fod wedi prisio’r arian i mewn neu ei ddal oherwydd fe fydd symudiadau mewn gwerth arian yn dal i effeithio arno, hyd yn oed os yw’r pris wedi’i bennu.


Cymerwch gyngor gan eich banc neu siaradwch â masnachwr FX arbenigol a fydd yn gallu helpu i gyflwyno costau a manteision rheoli cyfnewid arian tramor. Yn aml, y cyngor gan arbenigwr FX da fydd cymryd cyfuniad o flaen-gyfraddau sefydlog a chyfraddau ar y pryd. Fel hyn, pan ddaw’r amser pan mae arnoch angen yr arian tramor, yn ddibynnol ar beth yw’r gyfradd ar y pryd y diwrnod hwnnw, nid ydych ond yn wynebu risg o dyweder 50%. Os yw’r cyfraddau wedi codi, bydd eich elfen sefydlog wedi’i diogelu, ac os yw’r cyfraddau wedi syrthio ers ichi drefnu’r pris sefydlog, yna fe gewch 50% o’r arian yn rhatach ar y gyfradd ar y pryd. I fusnesau sy’n delio â symiau mwy o arian, mae yna lu o ‘opsiynau arian’ megis ‘capiau’ a ‘choleri’ ar gael i’w hystyried y bydd eich banc neu masnachwyr FX yn cyfeirio atynt.


Ystyriwch eich contractau. A ydych chi wedi cynnwys unrhyw gymalau ar gyfer amrywiadau eithafol mewn arian y bydd eich partner masnachu o bosibl yn barod i’w derbyn?



Y wers?


Fe ddywedir yn aml, pan gaiff cyfradd sefydlog ei chynnig ichi, fel arfer rydych chi eisiau gallu amrywio, a’r ffordd arall rownd. Hoffwn atgoffa pobl o’r cwmni sudd wnes i weithio gyda nhw ddegawd neu ddau yn ôl. Roedden nhw’n gwneud mor dda, fe welon nhw eu bod nhw’n gwneud mwy o arian ar y cyfraddau cyfnewid nag ar y sudd oren crynodedig yr oedden nhw’n ei brynu gyda’r arian. Fe aethon nhw’n fwy a mwy uchelgeisiol nes i bethau newid yn ddirybudd ac fe wnaethant golli llwyth o arian ac yn ddiweddarach y busnes a’u swyddi. Y wers? Ychydig, yn aml, a chofiwch mai busnes bwyd a diod ydych chi nid masnachwr FX.







9 views0 comments
bottom of page