top of page
Search

Gadewch i ni drafod Cyfarwyddwyr Anweithredol

A dyna’n union wnaethon ni yn ein digwyddiad diweddar ar gyfer y Cyfarwyddwyr Anweithredol sydd wedi cofrestru ar gyfer Rhaglen Cyfarwyddwyr Anweithredol newydd y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy. Dan ofal Capital Law yn eu swyddfeydd yng Nghaerdydd, daeth un ar ddeg Cyfarwyddwr Anweithredol i’r gweithdy i drafod rôl Cyfarwyddwyr Anweithredol a sut gall eu profiad a’u sgiliau gefnogi busnes bwyd neu ddiod sy’n tyfu drwy’r Rhaglen Cyfarwyddwyr Anweithredol.


Bydd y rhaglen yn paru Cyfarwyddwyr Anweithredol profiadol â busnesau bwyd a diod addas sy’n awyddus i lenwi bylchau yn eu sgiliau, eu profiad neu eu gwybodaeth. Dechreuodd y Cyfarwyddwr Anweithredol a’r buddsoddwr cyfresol, George Adams, y diwrnod i ffwrdd drwy egluro’r rôl a’r materion sy’n wynebu’r Cyfarwyddwyr Anweithredol, gan ddefnyddio ei brofiad hir ac amrywiol. Cliciwch YMA i wrando ar bodlediad o George yn siarad am rôl y Cyfarwyddwr Anweithredol yn fanylach.


Siaradodd Menai Owen Jones o Sefydliad y Cyfarwyddwyr am lywodraethu a’r Cyfarwyddwr Anweithredol, a sbardunodd ddadl ddiddorol ynghylch a ddylai Cyfarwyddwr Anweithredol feddu ar gymwysterau proffesiynol. Mae’n deg i ddweud nad yw hyn wedi’i benderfynu ar hyn o bryd!

Bu Jan Bowen-Nielsen, hyfforddwr a siaradwr busnes sydd wedi ennill gwobrau, yn trafod sgiliau mentora a sgiliau gwrando yn astud, a oedd yn cynnwys ymarfer byr i’r rhai a oedd yn bresennol i brofi eu sgiliau cyfathrebu.


Roedd Rebecca Mahon o Capital Law yn delio â chyfreithlondeb bod yn gyfarwyddwr anweithredol. Mae deall dyletswyddau cyfreithiol Cyfarwyddwyr Anweithredol yn hanfodol gan eu bod yn wynebu’r un rhwymedigaethau posibl â’r cyfarwyddwyr gweithredol.


Mae gan y Rhaglen Cyfarwyddwyr Anweithredol bellach gronfa ddata o Gyfarwyddwyr Anweithredol sy’n barod i weithio gyda busnesau bwyd a diod ledled Cymru. Darllenwch ymlaen i weld a allai Cyfarwyddwr Anweithredol helpu eich cynlluniau twf.


A allai eich busnes chi elwa o gael Cyfarwyddwr Anweithredol?


Pryd yw’r amser iawn i ystyried dod â chyfarwyddwr anweithredol i’ch busnes? Sut ydych chi’n gwybod a fyddai cyfarwyddwr anweithredol yn addas i chi? Mae gan Mike Woods, Rheolwr Gyfarwyddwr Just Love Foods, ddau gyfarwyddwr anweithredol sy’n cefnogi ei fusnes, ac un ohonynt yw George Adams. Gwrandewch ar ein podlediad lle mae Mike yn sôn am sut mae’r cyfarwyddwyr anweithredol wedi ei gefnogi i dyfu ei fusnes.


3 cham i Gyfarwyddwyr Anweithredol


Ydych chi’n meddwl ei bod hi’n amser ystyried cael cyfarwyddwr anweithredol? Dilynwch y tri cham yma


  1. Lawrlwythwch a llenwch ein Matrics Sgiliau Bwrdd i ganfod bylchau mewn sgiliau

  2. Edrychwch ar broffiliau’r Cyfarwyddwyr Anweithredol ar ein gwefan – oes ganddyn nhw’r sgiliau rydych chi’n eu colli?

  3. Siaradwch â’ch Rheolwr Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy neu Joan Edwards am Gyfarwyddwyr Anweithredol


8 views0 comments
bottom of page