top of page
Search

Oxbury Bank: Cyfleoedd Cyllid Newydd i Gwmnïau Bwyd a Diod BBaChau Yng Nghymru

O’i gymharu â banciau eraill, mae Banc Oxbury yn gymharol newydd yn y byd cyllid ac maent ond yn benthyca ers 2021, ond fel unig fanc amaethyddol arbenigol y DU, maent eisoes wedi sefydlu eu hunain yn yr economi wledig gyda busnesau ffermio bach a chanolig. Maent nawr yn gobeithio ehangu eu ffocws ac yn troi eu sylw at fwyd a diod drwy gyhoeddi cronfa £250m sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig yn sector bwyd a ffermio y DU.


I ddysgu mwy am Fanc Oxbury fel cyflenwr cyllid newydd posibl i sector bwyd-amaeth a diod Cymru, fe wnaethom wahodd grŵp bach o aelodau’r Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy i ymweld â Banc Oxbury yn eu pencadlys yng Nghaer lle’r oedd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Nick Evans ac aelodau o’i dîm yn ein croesawu.


Roedd yr ymweliad yn dangos y cyfleoedd i gael mynediad at gyllid i’r busnesau sy’n bresennol, yn ogystal â’r cyfle i drafod gofynion cyfalaf busnesau bwyd a diod Cymru gydag Oxbury. Roedd y pynciau allweddol a oedd yn sail i’r drafodaeth yn cynnwys cynaliadwyedd, sut mae nodweddion carbon yn dod yn fwyfwy pwysig i bob busnes; yn anochel roedd sôn am brisiau ynni ac a yw cydweithio drwy brosiectau fel Cymru Connects yn ateb posibl; cyfraddau llog a’r angen i fod yn fwy gofalus wrth gytuno/derbyn cyfraddau ar gynnyrch ar hyn o bryd; pa mor hygyrch yw grantiau ar gyfer busnesau bwyd a diod ac yn olaf, sut mae cyllid ased yn gweithio o safbwynt banc.

Fe wnaeth y busnesau a oedd yn bresennol ddysgu sawl peth newydd i’w ystyried wrth reoli cyllid eu busnes, ac mae nifer yn parhau â’u trafodaethau gyda Banc Oxbury.


I gael rhagor o fanylion am Fanc Oxbury, ewch i https://www.oxbury.com/


Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno ag ymweliad tebyg yn y dyfodol, cysylltwch â Rheolwr Clwstwr Wyn Jones ar wyn.jones@bic-innovation.com

24 views0 comments
bottom of page