top of page
Search

SSU Clwstwr Cylchlythyr - Mis Ionawr 2023

Updated: Mar 13, 2023

Cyflwyniad

A dyna ni, blwyddyn arall ar ben; blwyddyn arall sydd wedi dod â hyd yn oed mwy o heriau i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru. Mae tîm y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy wedi bod yn gweithio gyda busnesau bwyd a diod ar hyd a lled Cymru i fynd i’r afael â’r sialensiau hyn ac i weithio ar adeiladu gwytnwch ar gyfer y misoedd i ddod. Os ydych chi eisiau trafod yr heriau rydych chi'n eu hwynebu ar hyn o bryd yn eich busnes bwyd neu ddiod gydag un o’n Rheolwyr Clwstwr, ewch i’n Tudalen Tîm i weld eu harbenigedd a’u manylion cyswllt.


Yn dilyn ein cynhadledd Arian i Dyfu y llynedd, mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd ein cynhadledd nesaf Cynhyrchiant: Trefnu er mwyn Tyfu, yn cael ei chynnal ar 2 Chwefror 2023 ac mae’r broses gofrestru bellach ar agor.


Ni fu gwella cynhyrchiant erioed yn bwysicach ar gyfer sector bwyd a diod sy'n wynebu storm berffaith o chwyddiant mewnbwn cynyddol a'r gostyngiad yn y galw yn ystod argyfwng costau byw.


Ymunwch â ni yng nghyfleuster AMRC ym Mrychdyn ar 2 Chwefror 2023 i archwilio ac i ddod o hyd i atebion i'r penbleth cynhyrchiant, gan gynnwys sut i ddatgloi ac ariannu'r gwelliannau cynhyrchiant hynny sydd eu hangen ar gyfer cynaliadwyedd ariannol hirdymor. Gallwch hefyd drefnu apwyntiadau ymlaen llaw gyda darparwyr ariannol i archwilio opsiynau cyllid addas ar gyfer eich anghenion.


Am fwy o fanylion ac i gadw lle ac apwyntiad 1:1 ewch i’n gwefan.



Blog: Punt wan; Beth mae hyn yn ei olygu i’r sector bwyd a diod yng Nghymru?


John Taylerson, Arweinydd Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy, sy’n edrych ar oblygiadau’r bunt wan ar fusnesau bwyd neu ddiod yng Nghymru a pha gamau y dylai busnesau fod yn eu cymryd.


Darllenwch mwy YMA.



Mae Cymru Connects yn datblygu cadwyni cyflenwi cadarn – cofrestrwch nawr


Mae’r sector bwyd a diod yng Nghymru yn wynebu heriau digynsail o ran costau’r gadwyn gyflenwi, ac mae disgwyl i hynny waethygu dros y misoedd nesaf.


Mae Cymru Connects yn adnodd platfform caffael peilot sydd â’r nod o gefnogi cynhyrchwyr i ddatblygu cadwyni cyflenwi mwy effeithlon a chadarn, ac mae wrthi ar hyn o bryd yn chwilio am fusnesau i gofrestru ar y platfform.


Darllenwch fanylion am sut i gofrestru FAN HYN.



A yw Cyfarwyddwr Anweithredol yn iawn ar gyfer fy musnes? 3 rheswm pam allai Cyfarwyddwr Anweithredol fod o fudd


Efallai y byddwch yn gofyn pam fyddech chi'n ystyried dod â Chyfarwyddwr Anweithredol i’ch busnes bwyd neu ddiod? Wedi’r cyfan, does neb yn nabod eich busnes yn well na chi!


Darllewch mwy YMA.



Mynediad at Gapasiti


Diolch i’r tîm yn Nistyllfa Castell Hensol, lle cynhaliwyd ein digwyddiad Mynediad at Gapasiti ym mis Tachwedd. Canolbwyntiodd y digwyddiad ar weithgynhyrchu dan gontract fel ffordd o oresgyn problemau capasiti wrth dyfu busnes bwyd neu ddiod, a bydd dau ddigwyddiad pellach yn 2023, felly cadwch lygad ar eich mewnflwch am fwy o fanylion.

Cyllid Pynciau Popeth


Mae Rhaglen Sbarduno NatWest bellach AR AGOR am geisiadau ar gyfer carfan Mawrth 2023.

Efallai eich bod yn ystyried adeiladu eich tîm, mentro i farchnadoedd newydd neu chwilio am fuddsoddiad pellach. Ar ben hynny, does dim rhaid i chi fod yn gwsmer NatWest i gymryd rhan yn y rhaglen Sbarduno.



Cronfa Cenhedlaeth Newydd Oxbury


Un o'r prif rwystrau i bobl ifanc rhag mynd i mewn i'r diwydiant amaeth yw mynediad at gyllid. Bydd Oxbury yn newid y ffordd draddodiadol hon gan fanciau ac yn helpu ffermwyr newydd i achub ar y cyfleoedd y maen nhw wedi ymrwymo iddyn nhw.


Darllenwch fwy YMA.


Diweddariad Foodservice Ch4 2022: Beth sydd ar y Fwydlen? Rhifyn Arbennig o Ragolygon Costau Bwyd

Mae prisiau bwyd wedi codi yn ystod 2022 ac mae ansicrwydd am 2023 yn uchel, sy’n golygu bod cynlluniau a strategaethau prynu ar gyfer y flwyddyn i ddod hyd yn oed yn fwy anodd nag arfer. Gofynnodd Rabobank i’w harbenigwyr bwyd a busnesau amaeth beth yw eu disgwyliadau ar gyfer y dyfodol agos o ran prisiau eitemau fel nwyddau llaeth, cynnyrch ffres, cynnyrch bara, cig a mwy.


Darllenwch fwy YMA.


Diogelu Hawliau Gweithwyr yn y Sector Bwyd a Diod yng Nghymru

Bydd Food Skills Cymru, sy’n gweithio mewn partneriaeth â Chyfarwyddiaeth Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg Llywodraeth Cymru, yn cynnal tri gweithdy ar-lein ym mis Ionawr 2023 i roi cyfle i ddysgu mwy am hawliau gweithwyr yng nghyd-destun y sector bwyd a diod yng Nghymru.


Ewch FAN HYN am fwy o fanylion ac i gadw eich lle.



Banc Gwybodaeth – adnoddau ar flaenau eich bysedd


Os ydych chi eisiau gwella eich gwybodaeth ariannol i wneud penderfyniadau ariannol gwell, eisiau pwyso a mesur y gwahanol opsiynau cyllid i brynu neu brydlesu offer, cerbydau neu eiddo newydd neu angen esboniadau am jargon cyllid mewn Cymraeg clir, mae'r Banc Gwybodaeth newydd ar ein gwefan yn cynnig adnoddau i helpu gyda'r rhain a llawer mwy. Ewch i’r Banc Gwybodaeth i weld yr adnoddau sydd ar gael, a byddwn yn ychwanegu mwy dros yr wythnosau nesaf.



Mae Gwobrau Bwyd a Diod Cymru 2023 nawr ar agor ar gyfer enwebiadau


Gyda dau gategori newydd, Busnes o’r Fferm i’r Fforc y Flwyddyn a Phencampwr Bwyd a Diod Cymru, mae’r gwobrau hefyd yn mynd i leoliad newydd ar gyfer y seremoni wobrwyo ar 18fed Mai, Venue Cymru.


Mae gennych chi tan 17eg Mawrth i gael eich ceisiadau i mewn – ewch YMA am ragor o fanylion.



Gweminar Rhagolygon Economaidd ac Effaith Ymddygiad Defnyddwyr

Ym mis Hydref, gwahoddwyd Rhaglen Mewnwelediad Bwyd a Diod Cymru i gyflwyno diweddariad ar y rhagolygon economaidd ac effaith ymddygiad defnyddwyr. Cyflwynodd y tîm adolygiad a rhagolwg hynod addysgiadol a manwl o economi Prydain Fawr ynghyd â’r goblygiadau ar gyfer y diwydiant bwyd a diod.


Os wnaethoch ei cholli, gwyliwch FAN HYN.



Aelodau Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy yn ymweld â phencadlys Banc Oxbury


O’i gymharu â banciau eraill, mae Banc Oxbury yn gymharol newydd yn y byd cyllid. Dim ond ers 2021 y maen nhw wedi bod yn benthyca. Aeth grŵp o aelodau Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy i’w prif swyddfa yng Nghaer i gwrdd â’r tîm ac i ddysgu ychydig mwy am beth sy’n gwneud Oxbury yn wahanol i fenthycwyr eraill.


Darllenwch fwy am yr ymweliad FAN HYN.


Cysylltwch!


A ydych chi’n gwmni bwyd a diod yng Nghymru, gydag uchelgais i uwchraddio, ond nid ydych chi’n sicr lle i ddechrau? Mae ein Rheolwyr Clwstyrau Rhanbarthol ar gael ar gyfer ymgynghoriadau un i un er mwyn dysgu mwy am eich uchelgais o ddatblygu.


Cysylltwch â nhw YMA i drefnu eich ymgynghoriad un i un.

4 views0 comments
bottom of page